Croeso i Glwb ar ol ysgol Rhiw-Bechan
Yn ystod y tymor, mae Clwb Brecwast ar agor o 08:00-8:40y.b, dydd Llun – Iau ar gost ydi £3.50 am sesiwn. Mae'r plant yn cael grawnfwyd / tost a sudd ffrwythau am 08:10y.b ac yna cant fwynhau amser rhydd cyn i'r ysgol ddechrau.
Mae'r Clwb ar ôl ysgol ar agor o 3.30y.p hyd at 5.30y.p ac mae'n costio £6.50 y plentyn. Maent yn mwynhau amser rhydd ar gyfer y cyfnod gyda chyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau celf a chrefft, lego/adeiladu, chwarae rôl, dawnsio, gweithgareddau chwaraeon neu yn syml cant ymlacio ar ôl diwrnod yn yr ysgol a gwylio ffilm. Caiff byrbrydau a diodydd ei roi i'r plant am oddeutu 4 o'r gloch sy'n eu cadw nhw i fynd tan cant swper adref! Pan mae'r tywydd yn braf, bydd staff yn mynd a'r plant at gae chwarae'r ysgol am gêm o bêl-droed, criced neu rownderi gan ddibynnu ar faint o blant sydd.
Cofrestru
Mae'n rhaid i rieni lenwi Ffurflenni Cofrestru a darllen Polisïau perthnasol cyn i'ch plant/plentyn gael lle. Gofynnir i rieni eu bod yn gwneud yn siwr eu bod yn rhoi gwybod i'r clwb os nad ydynt yn gallu bod yn bresennol am unrhyw reswm ee salwch, tripiau ayb neu byddant yn eu casglu o'r ysgol.
Peidiwch ag oedi i gysylltu â Carol Timms neu Debra Shaw ydych angen unrhyw wybodaeth pellach.

