Clwb yr Urdd Ysgol Rhiw-Bechan
Mae Clwb yr Urdd Ysgol Rhiw-Bechan yn rhedeg bob dydd Llun o 3.30pm tan 4:30!!
Mae croeso i blant o Flwyddyn 1 i fyny ymuno. Mae gwybodaeth am ymuno a'r Urdd ar gael o fis Medi ymlaen ac yn costio tua £6.50.
Mae'r clwb yn gofyn am dâl wythnosol o 50c i dalu am ddiodydd a byrbrydau.
Mae gweithgareddau wythnosol yn cynnwys:
- Chwaraeon - pêl-droed, criced, pêl-rwyd, rygbi, rownderi a llawer mwy
- Dawnsio gwerin
- Canu
- Gemau parasiwt
- Parti Pysgod a Sglodion i ddathlu diwedd blwyddyn academaidd!
Mae plant hefyd yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn Eisteddfod lleol, ardal a chystadlaethau'r Urdd Cenedlaethol ym mis Chwefror a mis Mawrth.
Mae'r rhain yn cynnwys:
- Lefaru
- Canu
- Dawnsio gwerin
- Dawnsio disgo
- Cystadlaethau offerynnol
- Actio - Ymgom
Felly dewch draw i ymuno yn yr hwyl!

