Datganiad Grant Amddifadedd Ysgolion - YSGOL RHIW-BECHAN 2020-21
Dyrennir y Grant Amddifadedd Disgyblion i ysgolion â disgyblion sy’n dod o deuluoedd incwm isel ac y gwyddys eu bod ar hyn o bryd yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim (e-FSM) a disgyblion sydd wedi derbyn gofal yn barhaus am fwy na chwe mis (LAC).
Disgwylir i ysgolion ddefnyddio’r cyllid hwn i’r eithaf i gyflwyno strategaethau cynaliadwy fydd yn arwain yn gyflym at newidiadau i ddysgwyr sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim neu sy’n LAC.
Fel ysgol rydym wedi cytuno ar y tri cham a ganlyn:
- nodi’r grŵp targed o ddisgyblion, ei nodweddion a’i anghenion
- cynllunio ymyraethau sy’n gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o adnoddau
- monitro a gwerthuso effaith adnoddau
Yn 2020-21 rhoddwyd i Ysgol Rhiw-Bechan ddyraniad Grant Amddifadedd disgyblion o £10,350
Yn Ysgol Rhiw-Bechan mae gennym gynllun cynhwysfawr, sydd wedi’i gytuno a'i fonitro gan Awdurdod Lleol Powys ac ERW, i hyrwyddo cynnydd a chael gwared ar rwystrau i ddysgu i fyfyrwyr sy’n gymwys ar gyfer y cyllid hwn.
Rydym wedi defnyddio'r cyllid sydd ar gael er mwyn:
- Gwella dysgu ac addysgu gan ddarparu rhaglenni cefnogaeth ar gyfer y grŵp sgiliau sylfaenol yn Rhifedd a Llythrennedd.Gwneir hyn drwy ddarparu cefnogaeth mewn grwpiau bach.
- Llythrennedd - rhaglen ddarllen Dyfal Donc, a rhaglen ddarllen a sillafu Nessy. (is this what the what children do too?
- Rhifedd - Hwb Ymlaen.
Mae'r mathau yma o raglenni yn brawf o'u bod yn cael effaith ar ddysgwyr am y ddwy flynedd diwethaf, dyma pryd ddechreuom ni gynnig y rhaglenni.
- Defnydd o dracio data er mwyn adnabod anghenion dysgwyr, targedu ymyrraeth a monitro effaith.

