Ysgol Rhiw Bechan

Dewiswch eich iaith

Dillad ar gyfer Addysg Gorfforol a Gemau

Mae dillad addysg gorfforol ar gael i'w prynu yn yr ysgol fel arall gall plant wisgo crysau-T a siorts. mae esgidiau rhedeg trwm yn anaddas ar gyfer gymnasteg; mae'n well i'r plant wisgo esgidiau cynfas ysgafn neu draed noeth. Gall crysau pêl-droed achosi cenfigen neu gystadleuaeth felly am y rheswm hwn ni ddylid dod a nhw i'r ysgo. Mae crys a siorts syml lliw plaen yn addas. Bydd plant sy'n cynrychioli'r ysgol mewn cystadleuthau yn cael eu darparu gyda'r cit priodol ar gyfer yr achlysur. Mewn tywydd oer gall tracwisg cael ei wisgo ar gyfer gemau. Gwnewch yn siŵr bod yr holl cit wedi ei farcio'n glir ag enw'r plentyn.

Nofio

Dylai plant ddod â gwisgoedd a thyweli mewn bag addas (bydd bag siopa plastig yn ddigon da). Gall plant gyda gwallt hir yn gwisgo capiau ymdrochi. Ni ddylid gogls gael eu gwisgo oni bai bod caniatâd penodol wedi ei roi. Mae bagiau nofio ar gael i'w prynu yn yr ysgol os hoffech.